Byddwch yn rhan o Barti Haf y Big Cwtch 2018!
OES DIDDORDEB GYDA CHI FOD YN RHAN O’R BIG CWTCH 2018?
Cysylltwch!
Gwirfoddolwyr, noddwyr, artistiaid, perfformwyr a diddanwyr… rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed wrthoch.
- GWIRFODDOLI+
GWIRFODDOLI
Mae’n gwirfoddolwyr yn rhan allweddol or Big Cwtch, ac rydyn ni’n gobeithio byddwch chi’n cyfnewid profiad coiadwy a gwerth chweil am eich amser gwerthfawr a’ch brwdfrydedd.
Fel diolch am eich amser, byddwch chi’n derbyn tocyn gwirfoddolwr ar gyfer Parti Haf y Big Cwtch. Bydd y tocyn yma yn rhoi mynediad i holl adrannau maes y Big Cwtch, gwersylla am ddim, parcio am ddim, crys-t Gwirfoddolwr Parti Haf Elusennol y Big Cwtch 2018 a thocyn bwyd i’w ddefnyddio ar ôl eich sesiwn wirfoddoli. Yn ogystal, bydd te, coffi a dŵr ar gael yn y babell wirfoddolwyr drwy gydol y dydd.
Er mwyn gwneud cais i fod yn rhan o dîm gwirfoddoli’r Big Cwtch 2018, cwblhewch y ffurflen gais isod a’i ddychwelyd cyn gynted â phosib.
Volunteering Registration Form (English)
Ffurflen Gais Gwirfoddoli (Cymraeg)
Gwobr Dug Caeredin (Duke of Edinburgh Award)
Rydym yn rhedeg dau grŵp DofE yn y Cwtch eleni. Os hoffech chi wneud cais i fod yn rhan o dîm gwych DofE y Big Cwtch, anfonwch e-bost at: volunteering@thebigcwtch.com a fydd ein cydlynydd gwirfoddoli mewn cysylltiad cyn gynted â phosib.
- Stondinau masnach+
Stondinau masnach
Mae amrywiaeth arbennig o grefftwyr lleol yn masnachu yn y Big Cwtch. Er mwyn gwneud cais i fasnachu yn yr ŵyl eleni, anfonwch e-bost at info@thebigcwtch.com
- Cynhyrchwyr Bwyd Lleol a’n Stryd Fwyd+
Cynhyrchwyr Bwyd Lleol a’n Stryd Fwyd
 ydych chi’n gynhyrchydd bwyd lleol, fasnachwr bwyd stryd neu gogydd wedi eich lleoli yng Nghymru? Ymunwch â ni i fod yn rhan o dîm arbenigol. Dim ond nifer gyfyngedig o lefydd sydd ar ôl, felly anfonwch e-bost gyda’ch manylion at: info@thebigcwtch.com
* TRWY GAIS YN UNIG AC YN AMODOL AR ARGAELEDD
- Gosodiadau Creadigol a Pherfformwyr+
Gosodiadau Creadigol a Pherfformwyr
Gŵyl yn dathlu cerddoriaeth, bwyd a chelf creadigol yw’r Big Cwtch.
Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda artistiaid a pherfformwyr newydd gorau Cymru…
Os oes gennych chi weithgaredd, berfformiad neu gynhyrchiad unigryw, cysylltwch â ni!
Mae lleoedd ar gael o hyd ar gyfer gosodiadau creadigol, celf, perfformiaid symudol, acrobatau, llefarwyr, beirdd, digryfwyr ac … unrhywbeth sy’n unigryw sy’n tynnu ein sylw!
- Noddwyr a Phartneriaid+
Noddwyr a Phartneriaid
Heb ffrindiau a phartneriaid gwych y Big Cwtch, fe fydd yr ŵyl yn hollol amhosib.
Ymunwch â ni fel ffrind o’r Big Cwtch am ond £500. I ddangos ein diolchgarwch am y cefnogaeth, mae ffrindiau yn cael tocynnau am ddim, buddion, a’r siawns i ymuno â chwmnïau a chefnogwyr lleol i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer prosiectau ac elusennau cymunedol.
Mae cyfleoedd ychwanegol i noddi artistiaid, gosodiadau creadigol, profiadau unigryw’r ŵyl, tocynnau grŵp a phecynnau ‘banquet’, yn ogystal âg amrywiaeth o brofiadau ar gyfer staff a chwsmeriaid.
Mae digon o gyfleoedd i gymryd rhan ac i gefnogi’r ŵyl a’r elusennau eleni. Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost i Amanda Drury at amanda@thebigcwtch.com